Pwyllgor y Llywydd

Ar 15 Hydref cyflwynodd y Comisiwn Etholiadol y wybodaeth ychwanegol sydd isod i gynorthwyo’r Pwyllgor wrth iddo graffu ar yr amcangyfrif ariannol:

1.         Pa ganran o’r costau anuniongyrchol a fydd yn cael eu codi ar Gronfeydd Cyfunol Cymru, yr Alban, a’r DU, ac a yw’r canrannau hynny’n ymwneud â maint llawn y boblogaeth, neu’r boblogaeth oedran pleidleisio yn unig?

Dyma ganran y gorbenion: Senedd Cymru 4.72%; Senedd yr Alban 8.18%; a Phwyllgor y Llefarydd 87.1%.

Yn dilyn trafodaethau â swyddogion yng Nghymru a’r Alban, byddwn yn defnyddio cyfanswm y boblogaeth.  Fe wnaethom ddewis y sail hon dros 18+ neu ryw sail arall gan fod bandiau oedran cyhoeddedig ONS yn torri ar draws oedrannau pleidleisio.  Yn ymarferol, fe wnaeth hyn wahaniaeth o lai na 0.1% i gyfrannau cymharol y boblogaeth, felly mae’r effaith yn amherthnasol.

Manylion:

·         y bandiau oedran perthnasol yw 15-19 a 20-24, ac felly mae’n amhosib canfod pleidleiswyr iau (neu hyd yn oed ‘oedolion’ yn unig) yn gywir, gan fod y categorïau hynny’n torri ar draws y categorïau demograffig cyhoeddedig.

·         Noder bod cyfrannau gorbenion yn wahanol i’r cyfrannau cyllido cyffredinol, sydd hefyd yn cynnwys amcangyfrifon gwaith sy’n briodoladwy i gyllidwyr penodol.

 

2.   Sut mae cyfrifoldeb Pwyllgor y Llefarydd dros etholiadau Lloegr a’r DU wedi ei ffactori yn nosraniad y costau anuniongyrchol?

Mae gan Bwyllgor y Llefarydd gyfrifoldeb dros bwerau’r DU gyfan yn ogystal â phwerau a gedwir.  Mae hyn yn cynnwys etholiadau Gogledd Iwerddon, sy’n bŵer a gedwir.  Mae cost etholiadau penodol a gedwir yn cael ei neilltuo yn uniongyrchol i’r Comisiwn; neilltuir amser staff gweithredol yn ôl amcangyfrifon o ran lle y treulir amser, yn unol â methodolegau ar gyfer cyllidwyr eraill.  Cyfran Pwyllgor y Llefarydd o’r gorbenion yw cyfran y boblogaeth ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon - sef cyfanswm o 87%.

 

3.         Darperwch resymeg dros gynnwys dibrisiant yn yr amcangyfrif

 

Mae system gyllido’r sector cyhoeddus yn y DU (a ddefnyddir hefyd gan awdurdodau datganoledig), yn cynnwys elfennau o gyfrif dwbl.  Er enghraifft, mae gwariant cyfalaf yn ymddangos gyntaf mewn cyllidebau cyfalaf, ac wedyn mewn cyllidebau cyfredol fel dibrisiant.  I osgoi cyllido’r un eitem ddwywaith, rhaid dewis p’un a ydys yn cyllido gwariant cyfalaf yn uniongyrchol, neu ddibrisiant.  Wrth ddatblygu’r dull arfaethedig, roeddem ni, ochr yn ochr â swyddogion yng Nghymru a’r Alban, wedi bod yn gweithio yn ôl y dybiaeth y byddai’r system yn cyllido gwariant cyfalaf ac eithrio dibrisiant.  Fodd bynnag, ystyriaeth arall, bwysig iawn i gydweithwyr datganoledig oedd y dylai’r system alinio mor agos â phosib â’r trosglwyddo o San Steffan i flociau cyllido datganoledig, er mwyn cyllido trosglwyddiad y cyfrifoldebau hynny o San Steffan. Y cyngor clir a gawsom gan gydweithwyr yn Nhrysorfa EM oedd y byddai’n haws o lawer cyflawni hyn pe bai’r fformiwla gyllido yn seiliedig ar wariant cyfredol gan gynnwys dibrisiant.  Felly rydym wedi dewis y dull hwnnw.

 

4.         A gynhwysir costau cyfieithu yn y ffigyrau?

 

Ffactorir cost cyfieithu cyffredinol i’r Gymraeg yn llinell gyllid Cymru. Mae hyn yn cwmpasu cyflog cyfieithydd Cymraeg llawn amser.  Caiff rhai costau cyfieithu ar gyfer prosiectau penodol, megis gwella darpariaeth canllawiau ar-lein, eu cynnwys hefyd yn y llinellau cyllid mewn perthynas â’r gweithgaredd perthnasol. 

 

5.         Darperwch fanylion pellach sy’n egluro â beth y mae pob llinell gyllid yn ymwneud, a ph’un a oes mathau lluosog o gostau o dan y llinellau cyllid hyn.

Wedi eu cynnwys yn y tabl dilynol.


Manylion pellach yn egluro pob llinell gyllid.

Costau uniongyrchol

 

Cyfanswm yn 2021-22

Manylion pellach yn egluro â beth y mae pob llinell gyllid yn ymwneud

Eglurhad o’r costau o dan y llinellau cyllid

Manylion pellach am ddadansoddiad y llinell gyllid

£000s

Gweinyddu Etholiadol

 

 

 

 

 

 Cymru

230

Gweithgareddau yr ymgymerir â nhw gan y Comisiwn Etholiadol, Cymru mewn perthynas â gweithgarwch a digwyddiadau etholiadol yng Nghymru.

 

Mae hyn yn cynnwys:

 

Paratoi at etholiad y Senedd yn 2021, ac etholiadau llywodraeth leol yn 2022 yng Nghymru.

 

Datblygu a chyflwyno canllawiau, adnoddau, a chefnogaeth i ymgeiswyr, asiantau, ROs/EROs, a gweinyddwyr etholiadol ar gyfer etholiadau penodol a gweithgarwch etholiadol rheolaidd megis cofrestru etholiadol.

Ymgysylltu ag awdurdodau lleol a Swyddogion Canlyniadau i gefnogi a herio’r modd y maent yn cyflawni digwyddiadau etholiadol. 

 

Gweithio gyda’r gymuned etholiadol yng Nghymru trwy amryw o grwpiau rhanddeiliaid rydym yn eu rheoli neu ynghlwm wrthynt.

 

Darparu cyngor i lywodraethau ar faterion etholiadol, gan gynnwys prosesau diwygio etholiadol a deddfwriaeth gysylltiedig.

 

Gweithio gyda phartneriaid i gyfathrebu ein cenadwri i bleidleiswyr.

Mae’r uchod yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau taledig a di-dâl swyddfa’r Comisiwn yng Nghymru, yn seiliedig ar ein hamcangyfrif y bydd staff yn treulio tua dau draean o’u hamser ar weithgarwch sy’n ymwneud yn benodol â Chymru a’r rhelyw ar weithgarwch arall (y DU gyfan neu weithgarwch corfforaethol y Comisiwn).  Noder bod rhai o’r costau di-dâl (e.e. isadeiledd TG) wedi eu cynnwys yn y categori costau anuniongyrchol.

Y mae £231k yn dâl priodoladwy; a £215k yn ddi-dâl priodoladwy

Cefnogaeth

5

Byddai hyn yn cynnwys trin ceisiadau i achredu arsylwyr etholiadol yn bennaf. Rheolir y broses gan ein tîm yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gwirio’r ceisiadau ac yn gwneud argymhellion i’w cymeradwyo.

Gellir hefyd ddarparu rhagor o gefnogaeth i swyddfa Cymru trwy ddarparu staff i helpu gydag ymholiadau gwybodaeth gyhoeddus ac ymholiadau gweinyddu etholiadol.

Mae staff o dîm Gogledd Iwerddon hefyd ar gael i arsylwi digwyddiadau etholiadol yng Nghymru fel cynrychiolwyr y Comisiwn.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran fechan o gostau’r tîm yng Ngogledd Iwerddon o ran darparu cefnogaeth i waith y Comisiwn yng Nghymru.

Anghorfforol

 Canllawiau

92

Mae hyn yn cynnwys drafftio a chyhoeddi canllawiau i gefnogi Swyddogion Canlyniadau gyda’r pleidleisiau ym mis Mai 2022, yn ogystal â drafftio canllawiau i gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran cyflawni’r canfasiad yn 2022.

Yn ychwanegol at hynny, mae hyn yn cynnwys darparu cyngor i’r swyddfa yng Nghymru mewn ymateb i ymholiadau unigol gan weinyddwyr yng Nghymru, ac unrhyw gyngor arbenigol sydd ei angen fel rhan o waith ymgynghori mewn ymateb i ddeddfwriaeth ddrafft gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Canllawiau’r Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.  Noder bod hyn yn adlewyrchu gwaith y tîm hwnnw wrth gefnogi ein swyddfa yng Nghymru i gynhyrchu canllawiau sy’n benodol i Gymru.

Y mae £66k yn dâl priodoladwy; £26k di-dâl priodoladwy

 Cefnogaeth a Gwelliant

80

Mae hyn yn cynnwys datblygu, gweithredu, rheoli a chefnogi yn barhaus y fframweithiau ar gyfer safonau perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau.

Mae hyn yn cynnwys datblygu a chydgysylltu systemau monitro ac adnoddau ar gyfer ROs ac EROs, sydd wedyn yn cael eu cyflwyno i’r swyddfa yng Nghymru, a hefyd yr adrodd ar berfformiad perthnasol gan ROs ac EROs.

 

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Cefnogaeth a Gwelliant y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.  Noder bod y Tîm Cefnogaeth a Gwelliant yn gweithredu yn bennaf yn Lloegr, a chaiff y swyddogaethau cyfatebol eu cyflawni gan ein swyddfa yng Nghymru.  Mae hyn felly yn cynrychioli cyfrannu arbenigedd i gefnogi ein swyddfa yng Nghymru, pan fo angen.

Y mae £79k yn dâl priodoladwy; £1k di-dâl priodoladwy

 CYFANSWM

 

407

 

 

 

Cyfreithiol

 

 

 

 

 

 Cyfreithiol

97

Bydd hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth gyfreithiol i swyddogaethau cyngor, canllawiau a rheoleiddio’r Comisiwn, a chyngor cyfreithiol cyfamserol yn ystod pleidlais mis Mai 2021.  Cefnogi rheoleiddio wedi pleidleisiau a datblygu unrhyw argymhellion polisi. Cyngor cyfreithiol cyffredinol a pharhaus ar ddeddfwriaeth Cymru, a chefnogi swyddogaethau’r Comisiwn fel y bônt yn ymwneud â Chymru (gan gynnwys cofrestru, rheoleiddio, polisi, gweinyddu etholiadol, llywodraethu a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg).

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Cyfreithiol y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. 

Y mae £97k yn dâl priodoladwy

 Rheoleiddio

109

Datblygu canllawiau ar gyfer etholiadau perthnasol yng Nghymru i ymgeiswyr ac asiantiaid. Darparu cyngor i arweinwyr uniondeb (heddlu), ymgyrchwyr ac ymgeiswyr yng Nghymru.

Cyhoeddi data ariannol yng Nghymru ac unrhyw waith cydymffurfio a gorfodi sy’n deillio o weithgarwch perthnasol yng Nghymru.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau o Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.  Mae hyn yn cynnwys yr amser a dreulir wrth gynghori a chefnogi’r swyddfa yng Nghymru ynghylch materion rheoleiddio.

Y mae £108k yn dâl priodoladwy; £1k di-dâl priodoladwy

 CYFANSWM

206

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfathrebu, polisi ac ymchwil

 

 

 

 

 

 

Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol

559

Mae hyn yn cynnwys:

·         cyfryngau creadigol, cynllunio’r cyfryngau a phryniant ar gyfer ymgyrch cofrestru pleidleiswyr berthnasol

·         cyfryngau creadigol, cynllunio’r cyfryngau a phryniant ar gyfer unrhyw ymgyrch etholfraint

·         Gwaith partneriaeth ar draws Cymru sy’n annog ystod o randdeiliaid i ymgysylltu â’n deunyddiau cofrestru pleidleiswyr

 

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Ymgyrchoedd y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.  Mae hefyd yn cynnwys costau camau cynnar ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus y Comisiwn ar gyfer etholiadau mis Mai 2022.

Y mae £87k yn dâl priodoladwy; £472k di-dâl priodoladwy (ymwybyddiaeth gyhoeddus yn bennaf)

 Cyfathrebu a dysgu digidol

64

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Cyfathrebu a Dysgu Digidol y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. 

Mae’n cynnwys y gost sy’n deillio o ddatblygu defnyddioldeb ein gwefan, a chynnwys ar gyfer ein rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys pleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol, a’n cymuned reoledig. Mae gwelliannau diweddar i ddefnyddioldeb sydd ar gael i’n rhanddeiliaid yng Nghymru yn cynnwys:

·         Offeryn gwirio cod post sy’n galluogi pleidleiswyr i leoli eu gorsaf bleidleisio, a manylion cyswllt ar gyfer ceisiadau pleidlais bost a phleidlais trwy ddirprwy

·         Offeryn cymhwysedd sy’n galluogi pleidleiswyr o bob oedran a chenedligrwydd i bennu pa etholiadau y gallant bleidleisio ynddynt

·         Offeryn delweddu data sy’n galluogi defnyddwyr i gymharu a gwrthgyferbynnu’r symiau y gwnaeth ymgeiswyr eu gwario yn yr etholiad cyffredinol yn 2019 - bydd yr offeryn hwn yn cael ei ddiweddaru ar gyfer etholiadau Cymru. 

Mae’r llinell gyllid hon yn cynnwys costau sy’n ymwneud â datblygu adnoddau dysgu (llawlyfrau addysgwyr, llawlyfr myfyrwyr, ac asedau digidol) ar gyfer y rheiny sy’n gymwys, ac a fydd yn gymwys yn fuan i bleidleisio yng Nghymru. Bydd yr adnoddau hyn yn ychwanegu at yr adnoddau llythrennedd gwleidyddol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Senedd.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Cyfathrebu a Dysgu Digidol y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.  Mae’n cynnwys costau gwefan y Comisiwn.

Y mae £39k yn dâl priodoladwy; £25k di-dâl priodoladwy

Cyfathrebu allanol

34

O ran y wasg, mae hyn yn cwmpasu trafod ymholiadau ymatebol a chynnal ymgysylltu rhagweithiol â’r cyfryngau trwy gyhoeddiadau rheoleiddio rheolaidd er enghraifft, a chyhoeddi adroddiadau a gwaith arall y Comisiwn. Tra bo peth o’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan y tîm yng Nghymru, mae hyn yn cynrychioli cyfran o’r gwaith dros y DU gyfan. O ran materion cyhoeddus, mae’n cynnwys ymateb i ymholiadau perthnasol.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Cyfathrebu Allanol y Comisiwn (swyddfa’r wasg a materion cyhoeddus) yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.

Y mae £14k yn dâl priodoladwy; £20k di-dâl priodoladwy

 

Ymchwil

63

Mae’r rhaglen ymchwil ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021 yn debygol o gynnwys arolygu’r ymgeiswyr, casglu data gweinyddu etholiadol (e.e. symiau pleidleisiau post) a chywain adborth gan Swyddogion Canlyniadau ac eraill. Mae hefyd yn cynnwys costau ymchwil i agweddau’r cyhoedd tuag at bleidleisio ac etholiadau.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Ymchwil y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.  Mae’n cynnwys costau ymchwil i agweddau’r cyhoedd tuag at bleidleisio ac etholiadau.

Y mae £58k yn dâl priodoladwy; £5k di-dâl priodoladwy

 

Polisi

89

Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi ac adrodd ar etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021 i ganfod tueddiadau a materion i lunwyr polisi eu hystyried. Bydd hefyd yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r Senedd wrth ddatblygu polisi ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022, gan gynnwys adolygu deddfwriaeth ddrafft cyn iddi gael ei chyflwyno i Weinidogion ei chymeradwyo.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau Tîm Polisi y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio.

Y mae £89k yn dâl priodoladwy; £0k di-dâl priodoladwy

 CYFANSWM

809

 

 

 

Cyfanswm Costau Uniongyrchol

1,422

 

 

 

Costau Anuniongyrchol

 

 

 

 

 Adnoddau

255

Mae hyn yn cynnwys:

·         Technoleg Gwybodaeth a diogelwch:

·         Cefnogaeth y tîm gweithredol a gweinyddu canolog;

·         cyfleusterau a lletyo;

·         cynllunio a sicrwydd llywodraethu;

·         adnoddau dynol a hyfforddi;

·         cyllid a chaffael.

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o orbenion y Comisiwn a chostau eraill na ellir eu priodoli yn uniongyrchol i gyllidwyr penodol.  Seilir y gyfran hon ar boblogaeth.

Technoleg gwybodaeth a diogelwch £64k; cefnogaeth y tîm gweithredol a gweinyddu canolog £53k; cyfleusterau a lletyo £44k; cynllunio a sicrwydd llywodraethu £35k; adnoddau dynol a hyfforddiant £30k; cyllid a chaffael £26k; arall £3k.

Dibrisiant

73

 

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o dâl dibrisiant blynyddol y Comisiwn.  Seilir y gyfran hon ar boblogaeth.

-

 

 

 

 

 

Cyfanswm Costau Anuniongyrchol

328

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm cyfraniad

1,750